2011 Rhif 1940 (Cy. 208)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio a pheidio â chodi ffioedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (‘GIG’) ar, ymhlith pobl eraill, bersonau sydd ar incwm isel, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a yw'n cael hawlio hawl i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 3 yn diweddaru cyfeiriadau at reoliadau ariannu myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r rhain yn nodi'r hawliau i grantiau a benthyciadau sydd ar gael i fyfyrwyr. Mae symiau penodol o grantiau cynnal myfyrwyr yn cael eu diystyru wrth gyfrifo hawliau myfyrwyr i gael taliad am eu treuliau teithio ac i beidio â thalu ffioedd o dan y prif Reoliadau. Mae'n diweddaru hefyd y cyfeiriad at y ‘Student Support Information Guide’ a ddyroddir gan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban.

Mae rheoliad 4 yn gwneud tri mân gywiriad i'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 5 yn dirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch costau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

 

 


2011 Rhif 1940 (Cy. 208)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011

Gwnaed                           31 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       4 Awst 2011

Yn dod i rym                   yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Enwi, cychwyn ac effaith

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2011 ac yn cael effaith o'r dyddiad hwnnw, ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraffau (3) a (4).

(3)  Mae effaith rheoliad 3(3) yn peidio ar 1 Medi 2012.

(4)  Mae rheoliad 3(4) yn cael effaith o 1 Medi 2012 ymlaen.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1987” (“the 1987 Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987([3]); ac

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007([4]).

Diwygio Tabl A o Atodlen 1 i Reoliadau 2007

3.(1)(1) Mae Colofn 2 o Dabl A o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn yr addasiad o reoliad 23 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu hawlydd ac o briodas amlbriod) o Reoliadau 1987, yn lle'r geiriau “section 22(5) of the Act” rhodder “section 136 of the Social Security Contributions and Benefits Act([5])”.

(3) Yn yr addasiad o reoliad 62 o Reoliadau 1987 (cyfrifo incwm grant), yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff (2), rhodder y canlynol—

“(2C) There must also be disregarded from a student’s grant income —

(a)   any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 57 to 59 of the Education (Student Support) Regulations 2009([6]) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under chapter 2 of Part 6 of those Regulations;

(b)  any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 38 to 40 of the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) Regulations 2011([7]) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulations 48 to 51 of those Regulations; and

(c)   any sum by way of maintenance grant available to a student under regulation 58 of the Education (Student Support) (No.2) Regulations (Northern Ireland) 2009([8]) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulation 66 of those Regulations.”.

(4) Yn yr addasiad o reoliad 62 (cyfrifo incwm grant) o Reoliadau 1987, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff (2), rhodder y canlynol—

“(2C) There must also be disregarded from a student’s grant income —

(a)   any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 57 to 59 of the Education (Student Support) Regulations 2009 which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under chapter 2 of Part 6 of those Regulations;

(b)  any sum by way of maintenance grant available to a student under regulations 39 to 41 of the Assembly Learning Grants and Loans (Higher Education) (Wales) (No.2) Regulations 2011([9]) which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulations 49 to 52 of those Regulations; and

(c)   any sum by way of maintenance grant available to a student under regulation 58 of the Education (Student Support) (No.2) Regulations (Northern Ireland) 2009 which is not taken into account in the calculation of the maximum amount of a loan for living costs under regulation 66 of those Regulations.”.

(5) Yn yr addasiad o reoliad 66A (trin benthyciadau i fyfyrwyr) o Reoliadau 1987 yn y paragraff amnewid (1)(b), yn lle “Student Support Information Guide 2009-10” rhodder “Student Support Information Guide 2011-12([10])”.

 

Diwygio Tabl B o Atodlen 1 i Reoliadau 2007

4.(1)(1) Mae Colofn 2 o Dabl B o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn nhestun Saesneg Rheoliadau 2007 yn yr addasiad o Atodlen 2 (symiau cymwysadwy) i Reoliadau 1987, yn y cofnod sy'n ymwneud â mewnosod paragraff 1ZA(2), yn lle “mans” rhodder “means”.

(3) Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2007, yn yr addasiad o Atodlen 2 i Reoliadau 1987 (symiau cymwysadwy) yn y cofnod sy’n ymwneud â pharagraff 15(4)(a), yn lle “11(2)(b) or (c)” rhodder “11A(2)(b) or (c)”.

(4) Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2007([11]), yn yr addasiad o Atodlen 2 i Reoliadau 1987 (symiau cymwysadwy) yn lle “Ar ôl paragraff 15(4)(a) rhodder y cofnod a ganlyn—

“(aa) where the (aa) an amount condition in equal to the paragraph 11(1)(c) component in and an additional paragraph 13 of condition in Schedule 4 to the paragraph 11A(2) Employment and (a) or (d) are Support Allowance satisfied; Regulations”” rhodder “Ar ôl paragraff 15(4)(a) rhodder y cofnod a ganlyn—

 

“(aa) where the condition in paragraph 11(1)(c) and an additional condition in paragraph 11A(2)(a) or (d) are satisfied;

(aa) an amount equal to the component in paragraph 13 of Schedule 4 to the Employment and Support Allowance Regulations.””.

 

Dirymu

5. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010([12]) wedi eu dirymu.

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

31 Gorffennaf 2011

 

 



([1])   2006 p.42.

([2])   Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3])   O.S. 1987/1967.

([4])   O.S. 2007/1104 (Cy.116). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), O.S. 2009/54 (Cy.18), O.S. 2010/1237 (Cy.107), O.S. 2010/2759 (Cy.231) ac O.S. 2011/681(Cy.100).

([5])   1992 p.4.

([6])   O.S. 2009/1555.

([7])   O.S. 2011/148 (Cy.32).

([8])   O.S. 2009/373 (G.I.).

([9])   O.S. 2011/886 (Cy.130).

([10]) Mae'r “Guide” ar gael ar wefan Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban yn http://www.saas.gov.uk.

([11]) Mewnosododd O.S. 2009/54 (Cy.18), fel y'i gwnaed gan Weinidogion Cymru, gofnod newydd ar ôl paragraff 15(4)(a) yn yr addasiad o Atodlen 2 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 yn Nhabl B o Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007. Yr oedd y fersiwn Gymraeg o'r O.S. a lofnodwyd gan y Gweinidog yn anghywir. Er hynny, yn y copi printiedig o O.S. 2009/54 (Cy.18) yr oedd y cofnod yn anghywir yn y fersiwn Gymraeg a'r fersiwn Saesneg o'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn felly yn cywiro'r cofnod yn y fersiwn Gymraeg o'r O.S. a lofnodwyd gan y Gweinidog.

([12]) O.S. 2010/2759 (Cy.231).